Yma yn Plantos rydym yn gwrando ar ddymuniadau’r rhieni wrth iddyn nhw ddewis gofal plant ac rydym wedi ymateb gydag ystod eang o wasanaethau a fydd yn ysgafnhau’r pwysau o geisio cydbwyso sialensiau bywyd teuluol modern. Credwn yn angerddol yn y modd mae ein plant yn cael eu magu ac rydym wedi cychwyn ar siwrnai o ymrwymiad digyfaddawd ynglŷn ag arferion da yn yr hyn rydym yn ei wneud.
Credwn yn gryf bod y blynyddoedd cynnar yn sail i allu, datblygiad cymdeithasol a datblygiad ymddygiad ac o ganlyniad rydym yn ceisio cynnig yr amgylchedd orau o ofal a fydd yn annog dysgu drwy chwarae, hwyl a dwyieithrwydd. Dewch ac ymunwch gyda’ch plentyn yn yr hwyl drwy brofi dysgu ail iaith.
