Languange change - CymraegBack to homepage

Pwy Ydym ni

 

Fel rhieni gyda phlant bach sy’n gweithio, mae gennym brofiad personol o’r anawsterau sy’n wynebu rhieni wrth geisio darganfod gofal plant o ansawdd da sydd hefyd yn cydymffurfio gydag anghenion bywyd teuluol prysur, Yma yn Plantos, ein bwriad yw cynnig ystod o wasanaethau sy’n cyfuno datblygiad y plentyn gydag anghenion bywyd teuluol o ansawdd.

Ein bwriad yw cynnig tawelwch meddwl i’r rhieni drwy’r gofal plant o’r ansawdd uchaf bosib sy’n annog hwyl, creadigrwydd a dysgu drwy chwarae.

Mae ein diwylliant yn un o wellhad parhaus a datblygiadau newydd. Ein hathroniaeth yw cynnig magwraeth ddwyieithog o oed cynnar sy’n rhoi dechreuad cynnar i blant ac sy’n agor drysau i gyfleoedd cynyddol ymhellach ymlaen mewn bywyd.

Ein staff

Y rhan orau o ddiwrnod y plentyn yw’r rhyngweithio gyda’r staff. Mae ein hymrwymiad i gynnig y gofal plant o’r ansawdd orau angen tîm o’r ansawdd orau. Mae’r tîm rydym yn ei recriwtio yn cynrychioli ystod eang o sgiliau a phrofiad . Ymhob un o’r swyddi allweddol mae gan y tîm gymwysterau mewn dysgu neu ofal plant ac rydym yn cynnal tîm cymwysedig gydag ratio ymhell dros yr hyn sydd ei angen gan AGGCC - Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Yma yn Plantos, y plant ei hun yw canolbwynt popeth a wneir ac mae hyfforddiant gwell yn creu ffocws plentyn canolog yn y gwasanaethau a gynigir gennym

Does dim rhyfedd felly bod ein staff yn ennill sgoriau uchel yn ein harolygon rheolaidd gan ein cwsmeriaid.

Sylwadau ein cwsmeriaid

Rydym yn hollol ymroddedig ac yn gofyn yn rheolaidd i’n cwsmeriaid am adborth. Dyma rai sylwadau diweddar:

"Mae Ben wedi mwynhau ei flynyddoedd cynnar gyda chi yn fawr iawn , ac rydym i gyd yn dra diolchgar am yr amgylchedd hapus a chynnes y cafodd yno."

"Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i chwi am fod mor ymroddedig ac am y gofal o safon uchel y derbyniodd ein merch tra bu gyda chwi."

"Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i’r holl staff am eu croeso i’n merch ac am roi iddi atgofion mor werthfawr o’i phlentyndod. Diolch yn arbennig i chwi ferched am fod mor ymroddedig a gwneud pob dydd yn gymaint o hwyl."

"Gai ddweud diolch arbennig iawn i’r merched yn y feithrinfa am roi’r gofal gorau posib a ddymunwn i’n merch .Rydym o hyd yn ddiogel wrth wybod ei bod yn cael y gofal gorau posib , ac wedi derbyn y cariad a’r cyfleon dysgu a chymdeithasol gorau , ymhell tu hwnt ein gobeithion . Mae eich staff yn haeddu’r clod mwyaf." 

NDNA logo Muidiad